SL(5)016 - Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) 2016

Cefndir a Phwrpas

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adran 29(1) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 ( "Deddf 2009"). Mae'r Gorchymyn hwn yn addasu’r Fanyleb Safonau Prentisiaethau ar gyfer Cymru a ddaeth i rym ym mis Mai 2013 gan y Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) 2016

Mae'n rhaid i'r holl fframweithiau prentisiaethau fodloni'r gofynion a bennir yn y Fanyleb ddiwygiedig i fod yn fframwaith Cymreig cydnabyddedig a gyhoeddwyd o dan adran 19(1) o Ddeddf 2009. Daw'r Fanyleb ddiwygiedig i rym ar 14 Hydref 2016.

Gweithdrefn

Negyddol

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

-       Mae'r Gorchymyn hwn yn addasu'r Fanyleb Safonau Prentisiaethau ar gyfer Cymru Mae'r ddogfen hon yn Saesneg yn unig. Mae'r ddogfen hon yn berthnasol i gynulleidfa eang. Mae'r Fanyleb yn ddogfen sydd wedi'i hanelu at y Cyngor Sgiliau Sector, sefydliadau gosod safonau, cyflogwyr, undebau llafur, darparwyr dysgu a sefydliadau dyfarnu. Cred y Pwyllgor y dylai'r ddogfen hon fod ar gael yn ddwyieithog. (Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.)

 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

3 Hydref 2016